Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2, y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 31 Mawrth 2025
Amser:
10.35 -
15.24
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/14867
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Laura Anne Jones AS Adam Price AS |
|
Tystion: |
Claire Fife, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.21, gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau a ganlyn i'r Bil:
Gwelliant 23 (Adam Price)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Adam Price |
Mike Hedges |
|
|
Alun Davies |
|
|
|
Gwrthodwyd gwelliant 23. |
||
Roedd Laura Anne Jones yn absennol ar gyfer ystyried gwelliant 23 a phleidleisio arno.
Gwelliant 24 (Adam Price)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Adam Price |
Mike Hedges |
|
|
Alun Davies |
|
|
|
Gwrthodwyd gwelliant 24. |
||
Roedd Laura Anne Jones yn absennol ar gyfer ystyried gwelliant 24 a phleidleisio arno.
Gan na dderbyniwyd gwelliant 24, methodd gwelliannau 25 i 32.
Gwelliant 33 (Adam Price)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Adam Price |
Mike Hedges |
|
|
Laura Anne Jones |
Alun Davies |
|
|
Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 33. |
||
Derbyniwyd gwelliant 2 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 3 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 4 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 5 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 6 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 7 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 8 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 9 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 10 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 11 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 12 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 13 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 14 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Derbyniwyd gwelliant 15 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Gwelliant 34 (Adam Price)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Adam Price |
Mike Hedges |
|
|
Alun Davies |
|
|
|
|
Laura Anne Jones |
|
|
Gwrthodwyd gwelliant 34. |
||
Gwaredwyd gwelliannau 16 i 21 gyda’i gilydd.Derbyniwyd gwelliannau 16 i 21 (Julie James) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).
Gwelliant 22 (Julie James)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Mike Hedges |
Laura Anne Jones |
|
|
Alun Davies |
|
|
|
Adam Price |
|
|
|
Derbyniwyd gwelliant 22. |
||
Tynnwyd gwelliant 35 (Adam Price) yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.66(i)
Gwelliant 1 (Paul Davies)
|
O Blaid |
Yn Erbyn |
Ymatal |
|
Laura Anne Jones |
Mike Hedges |
|
|
Adam Price |
Alun Davies |
|
|
Gan fod y bleidlais yn gyfartal, defnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 6.20(ii). Gan hynny, gwrthodwyd gwelliant 1. |
||
Ni chynigiwyd gwelliant 36 (Adam Price AS).
Gan y gwaredwyd pob gwelliant, cadarnhaodd y Cadeirydd fod trafodion Cyfnod 2 wedi’u cwblhau.
Yn ystod y trafodion, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gweithdrefnau craffu ar gyfer offerynnau statudol Cymru. Ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd i rannu rhagor o fanylion gyda'r Pwyllgor am waith archwilio y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas â diddymu is-ddeddfwriaeth yn rhannol.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau i’w cytuno gan y Cadeirydd y tu allan i’r Pwyllgor.
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
Ystyriodd y Pwyllgor gyflwyniad drafft i’r Pwyllgor Busnes mewn perthynas â’i adolygiad o’r prosesau Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod, a chytunodd i’w ystyried eto mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer y misoedd nesaf.
Ystyriodd a chymeradwyodd y Pwyllgor yr ymateb drafft i ymgynghoriad yr Adran Busnes a Masnach ar ei Adolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020, yn amodol ar fân newid i'w gytuno gan y Cadeirydd y tu allan i'r Pwyllgor.
Ystyriodd a chymeradwyodd y Pwyllgor yr ymateb drafft i alwad y Comisiwn Dŵr Annibynnol am dystiolaeth.